Shelter – The zinc shed

Lloches - Y Cwt Sinc

@eisteddfod @yllecelf #Boduan

Cerflyn yw y lloches bach sinc sy’n rhan o arddangosfa Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod ym Moduan eleni.

Trefnwyd ac arianwyd hyn gan Y Panel Celf Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Lle clyd i fyfyrio yw y cwt sinc yma, cau y lleni, bodoli, ymlacio a mwynhau profi munud tawel oddiwrth bwrlwm y maes. Tu mewn fe welwch bod yn ddu fel y fagddu, fel bol buwch, arwahan i ambell dwll yn y sinc lle welwch pelydrau bach o olau yn disgleirio mewn fel sêr yn y nen.

Y syniad oedd creu lloches wedi ysbrydoli gan cytiau sinc hyfryd a nodweddiadol ym Mhen Llŷn. Mae hefyd wedi ei ysbrydoli gan Ynys Enlli sy yn Noddfa Awyr Dywyll Rhyngwladol – y cyntaf i gael y teitl yn Ewrop.

Enillwyd y comisiwn hwn i greu lloches dawel ar faes yr Eisteddfod, prosiect ar y cyd gan aelodau or teulu – fy mrawd Robin Evans sy’n berchen Mona Engineering yn Llangefni, Joseph Evans Beckett fy mab syn astudio Grapheg nawr yn ei drydedd flwyddyn yn Norwich a finnau Ann Catrin Evans dylunydd, gôf a gemydd.

Back to blog