
Gwarchod y blaned
Rhannu
“Ailddefnyddio lleihau ac ailgylchu”
Go brin fy mod yn taflu unrhyw beth i ffwrdd!
Mae gen i feddylfryd ailddefnyddio, ail-bwrpasu ac ailgylchu ac mae’n gweddu i’m hathroniaeth ddylunio.
“Yng ngennau’r sach mae cynilo”
Rwy’n torri fy deunyddiau yn ofalus ac yn hoffi defnyddio pob darn boed yn ddeunydd rhad neu ddrud. Mae hyn yn aml yn dylanwadu ar fy nyluniad. Rwy’n meddwl am ffynhonnell a maint y deunydd a chaiff yr agweddau ymarferol hynny eu hystyried pan fyddaf yn dechrau dylunio.
Pan oeddwn i’n ifanc roedden ni’n prynu pethau oedd yn cael eu gwneud i bara, ac roedden ni’n aml yn gwneud pethau boed yn ddillad, bwyd, offer neu bethau mecanyddol. Roedd yn gwneud synnwyr perffaith, rydych chi’n gwneud yr hyn sydd ei angen arnoch chi, ac yn defnyddio’r hyn sydd wrth law ac yn rhannu unrhyw beth sydd gennych chi dros ben.
“Cadw mi gei”
Rwy’n cadw llawer o bethau rhag ofn, i’w defnyddio eto neu eu hailddefnyddio. Rwy’n bosibl cadw gormod!
e.e. Drwy gadw pob tamad o lwch aur ac arian ‘rwyn gallu ei doddi lawr ai ail defnyddio.
Rwy’n hoffi deunyddiau crai naturiol, ac yn ceisio atal unrhyw effaith andwyol ar y blaned wrth ddod o hyd i ddeunyddiau.
Rwy’n ceisio defnyddio cwmnïau sydd wedi ymrwymo i werthu gemau a diemwntau heb wrthdaro ac o ffynonellau moesegol a defnyddio metelau sydd wedi’u hailgylchu.
Mae fy nghyflenwyr metelau – arian, aur, haearn, dur, copr a phres yn cael eu stocio gan ffynonellau cyfreithlon nad ydynt yn ymwneud ag ariannu gwrthdaro yn unol â Phenderfyniadau’r Cenhedloedd Unedig a chyfraith gyfatebol y DU.
Rwy’n defnyddio blychau cardbord ar gyfer cyflwyno fy ngemwaith y gellir ei ailgylchu, ac o ran y blychau plastig – mae fy nghwsmeriaid yn dweud wrthyf eu bod yn eu defnyddio drwy’r amser i ddiogelu eu gemwaith ac felly nid cynnyrch untro yw hwn ond blwch cofrodd annwyl. Byddaf yn cadw fy llygad allan am ddyluniad cain arall ar gyfer blwch cardbord cwbl ddi-blastig yn y dyfodol. Mae lle i wella bob amser.
Rwy’n ceisio defnyddio amlenni padio papur neu ailddefnyddio hen fagiau jiffy, a defnyddio tâp papur wrth becynnu eitemau a werthir ar-lein.
Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud fy nghwsmeriaid yn hapus i wybod. Os nad oes unrhyw un eisiau unrhyw ddeunydd pacio rhowch wybod i mi, neu os hoffech ddychwelyd eich pecyn, dewch â nhw i mewn i’r siop a byddaf yn eu hailddefnyddio.
Diolch a dymuniadau gorau
Ann Catrin