Portmeirion Food & Craft Fair 2023

Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion 2023

Mor falch o ddweud fy mod yn cymeryd rhan eto eleni, ac wrthi yn paratoi ir achlysur. Dewch i weld fi yn Neuadd Hercules.

Dyma fanylion yr wyl:-

RYDYM YN FALCH O GYHOEDDI Y BYDD YR ŴYL FWYD A CHREFFT YN ÔL ELENI.

Bydd digwyddiad Nadolig Portmeirion yn arddangos y gorau o fwyd a diod lleol crefftau, anrhegion ac adloniant.

Fe fydd amrywiol stondinau yn arddangos y cynnyrch Cymreig gorau. Yn ogystal, fe fydd rhaglen amrywiol o adloniant fydd at ddant pawb.

Cynhelir y digwyddiad ar hyd y pentref rhwng Dydd Gwener, 1il o Ragfyr hyd at bnawn Sul 3ydd o Ragfyr 2023.

Byddwn yn agor 09:30yb ac yn cau 17:00yh.

Bydd tocynnau mynediad i’r pentref ac i’r digwyddiad yn cael ei werthu ar y safle yn unig. (Ni fydd modd prynu tocynnau ar lein neu dros y ffôn o flaen llaw.)

Ein prisiau fel a ganlyn (sydd yn cynnwys mynediad i’r pentref, y gwyllt a’r digwyddiad):

  • OEDOLION A CHONSENSIYNAU – £10.00 yr un
  • PLANT (5 -15) – £5.00 yr un
  • PLANT dan 5 oed – AM DDIM.

Os hoffech drefnu ymweliad fel grŵp mewn bws ffoniwch y Ganolfan Groeso (01766) 772 409 am ragor o fanylion.

Ceir rhagor o fanylion yn cadarnhau’r canlynol yn fuan yma ar y wefan:

  • Parcio a theithio
  • Manylion stondinwyr
  • Rhestr o adloniant

Cofiwch nodi’r achlysur yn eich dyddiadur sef Dydd Gwener 1il o Ragfyr – Dydd Sul 3ydd o Ragfyr 2023 – ac ymunwch gyda ni i weld hen ffrindiau, dathlu’r Nadolig a phrynu’r anrheg berffaith!


Back to blog