New studio

Stiwdio newydd

Mae hi wedi bod yn 6 mis yn barod ers i mi ehangu fy stiwdio gemwaith yn Siop iard.

Stori fy ngweithdy yw fy mod wedi sefydlu fy musnes mewn efail stiwdio a chrochendy ar fferm Tregarth ar fy nghartref teuluol Fferm Bryn Cul ar ôl graddio yn 1989 o Brighton.  Roedd yn adeilad mawr ac eang, y beudy yn wag gan ein bod newydd roi’r gorau i ffermio y flwyddyn honno pan fu farw fy nhad annwyl.  Er ei fod digon o le  roedd yn oer ac yn anghysbell!  Arhosais i yno flwyddyn a hanner.

Ym 1991 symudais i’r Efail, Parc Glynllifon, gefail ystâd bwrpasol hyfryd, gyda pentan ddwbl fawr.  Rwy’n dal i weithio yma 31 mlynedd yn ddiweddarach, yn gwneud cerfluniau mawr, a darnau ar gyfer fy ngemwaith haearn.  Mae Glynllifon yn weithdy creu gwych, fe wnaf eich cyflwyno i’r efail ddiwrnod arall.

Yn 2013 agorais stiwdio/siop ar y stryd fawr gyda dau o fy ffrindiau gorau Dave ac Angela.  Roedd arnom angen lle i weithio a gwerthu ar yr un pryd.  Ffurfiwyd Siop iard yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon o fewn muriau y castell.  Mae hon wedi bod yn fenter wych, yn fenter gydweithredol gefnogol lle mae pawb yn rhannu gofod, gwybodaeth, llafur a hwyl i wneud iddo weithio.

Chwe mis yn ôl fe wnaethom ehangu llawr y siop ac adeiladu gweithdy cymunedol mwy ar y llawr cyntaf uwchben y siop gan fod 8 ohonom erbyn hyn yn ymwneud â’r siop ac yn achlysurol mae gennym fyfyrwyr profiad gwaith a chyrsiau hefyd.

Mae fy stiwdio fach i fyny’r grisiau uwchben y siop yn hafan, mae’n berffaith, mae ganddo bopeth sydd ei angen arnaf ac mae’r ffenestr yn edrych i lawr dros y stryd fawr brysur Stryd y Plas .

Mae un wal yn wyrdd fel salvia sy’n tawelu a’r llawr yn wyn, felly os gollyngaf garreg drudfawr fe ddylai fod yn haws dod o hyd iddi!

Yng nghanol y llawr mae hen engan neu einion, gydag arwyneb llyfn wedi’i ‘sgimio’ ar gyfer gofannu, mae wedi’i guddio rhag taro i mewn i’w ‘big’ gan fainc gadarn ar olwynion – yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gosod allan gwaith ac yn ogystal mae ganddo ‘feis’ trwm sy’n troi  sy’n gallu dal mandrel ac ati neu ei ddefnyddio  ar gyfer gosod cerrig.

Mae gen i ddwy fainc gemydd gyda chrwyn, gyda’r offer arferol gyda fi pan fydd Laura neu Hanna fy cynorthwywyr gwych yn fy helpu.  Mae yna oleuadau cryf a golau naturiol hefyd o’r ffenestr.

Gellir symud yr aelwyd ar hyd y fainc dalach, gyda aquaflame a propan a phwmp O2 oddi tano.

Mae gen i lawer o le storio, basgedi a blychau pren a silffoedd.  Rwy’n gobeithio y byddwch yn ei hoffi ei weld. 

Dyma rai lluniau.


Back to blog