
Mae Gŵyl Grefftau – sydd wedi ennill sawl gwobr – yn dod i Aberteifi!
Rhannu
Bydd gennyf stondin arddangos creu fy ngwaith yno lle byddaf hefyd yn gwerthu fy gemwaith, a siarad am fy ngwaith brynhawn Sadwrn am 2 or gloch ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel am y Crefftau yng Nghymru Dydd Sul am 3yp.
Bydd Gŵyl Grefft Cymru yn tanio llwybr ar draws Aberteifi o 6-8 Medi gan groesawu dros 80 o wneuthurwyr yng Nghastell Aberteifi. Bydd Tiroedd y Castell yn llawn gweithgareddau gan gynnwys arddangosiadau, llwybr cerfluniau, arddangosfeydd, sgyrsiau, gweithdai, gweithgareddau plant, cyfleoedd i loywi eich Cymraeg, bwyd lleol, cerddoriaeth fyw, theatr cerdded o gwmpas ac adrodd straeon. Mae’n llawn dop!
O ddechrau mis Medi, bydd Y Llwybr Grefft Y Dre a gyflwynir gan Oriel Myrddin, yn gweld 6 lleoliad ar draws Aberteifi yn croesawu 6 gwneuthurwr newydd o Gymru. Bydd y Llwybr yn cynnwys gweithiau newydd, wedi’u hysbrydoli gan wrthrychau o Gasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol. Casglwch stampiau’r Llwybr a byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl fawr.
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn cyflwyno Llwybr Cerfluniau o amgylch y Castell o 6 Medi tan Hydref 6ed. Myfyrwyr a thiwtoriaid yn cyflwyno eu hymatebion i safle Gerddi Castell Aberteifi mewn pren, metel a charreg. Yn ymuno â nhw hefyd mae darn o gwrs Gwneud Dodrefn unigryw Coleg Ceredigion gyda’u hymateb cadair eu hunain i gadair safle-benodol y Castell.
Hefyd, mae Ffurfiau Pennodol a gynhelir yn Oriel Canfas, yn arddangosfa o serameg o safon Amgueddfa o bob rhan o Gymru wedi’i churadu gan grochenydd lleol, Peter Bodenham a fydd yn rhedeg o 6 Medi i 6ed Hydref.
Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, QEST a Cynnal y Cardi trwy Gyngor Sir Ceredigion.
Partneriaid yr Ŵyl: Castell Aberteifi, Mwldan, Make it in Wales, Oriel Myrddin, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Amgueddfa Genedlaethol, Môr a Llechi, Darganfod Ceredigion, Menter Iaith
Cefnogir gan Gyngor Tref Aberteifi, Cardigan Bay Brownies, Awen Teifi, Oriel Canfas, Crwst, Fforest, Theatr Byd Bychan a Chrochendy Llandudoch
Am fanylion llawn ewch i www.craftfestival.co.uk/wales