May Update: Coed Coexist  - Plas Glyn y Weddw

Newyddion mis Mai: Coed Coexist - Plas Glyn y Weddw

Mis yma, yn hynod gyffrous, mae agoriad arddangosfa gymysg ‘rwy’n cymeryd rhan ynddi.

Ynol ym Mis ionawr 2024 ddaru storm chwalu y goedwig ogwmpas Plas Glyn Y Weddw. Syrthiodd Ffawydden fawr oedd wedi sefyll am oddeutu 150–200 o flynyddoedd, clamp o goeden oedd wedi’i siapio gan wyntoedd a thywydd arfordirol Penrhyn Llŷn. Ymunais â grwp o artistiaid ddaeth at ei gilydd i greu rhwydwaith creadigol, drwy gyd greu allan o’r ffawydden yma ddaeth i lawr.

Rhanwyd  a gwasgarwyd y pren o amgylch Pen Llŷn a Gwynedd, a bu pawb yn meddwl am greu celfwaith i anrhydeddu y goeden yn ei steil nhw, gan fynegi ei hunain a gadael eu marc, gyda’r bwriad o ddod a’r tameidiau y goeden yn ôl i'r safle wedi gweithio arno ac arddangos pob campwaith gyda'i gilydd Mis Mai eleni.

Mi fydd yn hollol anhygoel gweld yr holl amrywiaeth creadigol yn Y Plas, ac agoriad llygad i feddylfryd gwahanol pob artist yn ymateb i’r pren. 

Mae Coed Coexist yn brosiect a gychwynwyd gan yr artistiaid o Ben Llŷn Junko Mori a John Egan mewn partneriaeth â Phlas Glyn-y-Weddw ac fe'i lansiwyd gyda symposiwm ym mis Medi 2024.

Mae hanfod y prosiect yn tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, gan chwilio am gysylltiadau ehangach, dyheadau a dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. 

Mae’r prosiect yn ei gyfanrwydd yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn, a bydd yn cyrraedd uchafbwynt gyda arddangosfa rhwng Mai a Gorffennaf 2026.

Fy narn - Egin ar ôl Mudlosgi

Mi fydd yn wefr gweld y darnau o waith yn yr Oriel. Yr holl fewnbwn gan bawb yn gweithio ar y cyd yn ymateb i'r un goeden hon.
Dwi wedi cymeryd ysbrydolaeth oddiwrth crib amaethyddol - offer cardio gwlân. Mi oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr ardal yn hanesyddol i baratoi gwlan y ddafad cyn ei wehyddu. I un sy yn dod o gefndir amaethyddol fy hyn, mae gwrthrychau fel hyn yn fy ysbrydoli ac yn fy nghysylltu i'r ardal. 
Mae'r teitl yn tarddu o'r ffaith y bydd gymaint o betha yn egin o'r digwyddiad yma, cysylltiadau fydd yn sbarduno mwy o gydweithio - o'r digwyddiad anffodus i'r goeden ddymchwel bydd llwythi o betha eraill yn ffynnu.
Egin ar ôl Mudlosgi gan Ann Catrin Evans
Egin ar ôl Mudlosgi gan Ann Catrin EvansEgin ar ôl Mudlosgi - Ann Catrin Evans

16 MAI 2026 - 12 GORFF 2026 

ARDDANGOSFA COED COEXIST

Ymunwch â ni ar gyfer agoriad swyddogol arddangosfa Coed Coexist ar 16 Mai am 11:00yb.

Back to blog