Gwenllian Festival

Gŵyl Gwenllian

Anrhydedd oedd cael siarad yn Gwyl Gwenllian ym Methesda yng nghwmni Rhiannon Gwyn a Anna Pritchard – dwy o artistiaid y fro. Holdd Rebecca Hardy ni’n tair am ein gwaith – y tair ohonom gyda chrefft mewn gwahanol ddeunyddiau ond yn syndod o debyg yn ein meddylfryd a chariad at ein cynefin a magwraeth yn ardal Y Dyffryn. Fel ddywedodd Ieuan Wyn mewn sgwrs, efallai bod y tair ohonom wedi tyfy fyny hefyd mewn rhannau reit anial a gwledig or ardal. Y tirwedd llechog, amaeth, rhyddid a ffordd o fyw wedi creu argraff mawr ar y tair ohonom.

Mwynhais wedyn clywed yr awduron yn siarad yn ddifyr iawn am ei gwaith a phrofiadau – Angharad Tomos, Manon Steffan Ross, Anes Glyn, ac Alys Conran.

Back to blog