Find a Maker
Rhannu
Rwyf newydd ymuno a Find a Maker, cyfeiriadur i wneuthurwyr Crefft ym Mhrydain a sefydlwyd gan Sara James - Craft Festival.
Mis Mai oedd lansiad aelodau newydd i'r rhestr o dros 450 o rhai o’r crefftwyr gorau Prydain. Ar ôl cymryd rhan yn y ddwy ŵyl gyntaf gan Craft Festival yn Aberteifi, roeddwn wedi fy symud gan ba mor gartrefol oedd bod yn y criw o bobol debyg eu meddylfryd.
Roedd cymuned o grefftwyr wedi dod ynghyd oedd yn deallt ei gilydd, yn dod o’r un lle, gwneuthurwyr o ddifrif - oedd yn debyg i deulu; yn y ffaith fod pawb yn gwneud ei gora, yn ffyddlon i’w ymarfer, yn rhoi ei oll i’r grefft, ac yn arbenigwyr yn ei maes. Mae yn anrhydedd bod yn yr Urdd hwn, ac ‘rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn ei gweithgareddau.