
Arddangosfa yn Storiel Bangor
Rhannu
Y Cwrs Sylfaen Celf yn Coleg Menai Pen-blwydd 41 mlynedd
Ionawr 22ain – Mawrth 26ain
Mae’r sioe yma’n agor ar yr 22ain o Ionawr, dwi’n wir gobeithio y gallwch ddod.
Ar ôl astudio o dan y gwych Peter Prendergast a’r bendigedig Moira Muir yn Ysgol Dyffryn Ogwen es i astudio am flwyddyn ar y Cwrs Sylfaen Celf ym Mangor 86-87 fe’n dysgwyd i edrych yn fwy gofalus, i astudio pob manylyn, ac arbrofi yn drwyadl.
Astudiais yn nyddiau cynnar y cwrs sylfaen, pan oedd y sylfaenwyr craidd yn dal i fod yno yn dysgu ei hunain – Ed Davies, Phil Mumford, Peter Prendergast, Paul Davies, Graham Meredith, Alan Brunsdon ymhlith eraill a ffurfiodd gwir graidd y dysgu. Roeddem wedi ein lleoli yn adeiladau adfeiliedig ond gogoneddus y Coleg Normal, lle’r oedd fy mam wedi astudio ei gradd Addysg o’r blaen. Cylch llawn hyfryd.
Roedd y cwricwlwm yn llawn, roeddwn i wrth fy modd gyda phob eiliad ohono. Roeddwn yn astudio pob cornel o gelf a dylunio a phenderfynais mai dylunio 3d oedd fy mhwnc er roeddwn yn mwynhau peintio yn fawr hefyd.
Phil Mumphord ac Alan Brunston oedd y deuawd anhygoel a ddysgodd gymaint i mi mewn cyfnod mor fyr yn fy maes arbenigol. Roeddwn yn caru y tasgau oedd y ddau yn rhoi i ni. Roedd y cwrs yn seiliedig ar athroniaeth Y Bauhaus o archwilio ym mhob cyfrwng.
‘Rwyf wedi gweithio yn y celfyddydau fel proffesiwn ers graddio yn 1989. Mae Maint y gwaith yn amrywio – rwy’n creu petha bychain fel gemwaith i gelf cyhoeddus cerfluniol ar raddfa fawr iawn.
Rwyf wedi fy lleoli yng Nglynllifon ers 31 mlynedd ac wedi agor Siop iard yn Gaernarfon ers 9 mlynedd.
Mae darnau wedi’u prynu gan gasgliadau cyhoeddus yn ogystal â chasglwyr preifat a rwy’n arddangos yn rheolaidd.
Graddedig o Brifysgol Brighton 1987-9
Rwy’n dylunio ac yn gwneud gwaith metel pensaernïol a cherfluniol mawr, gweithiau celf llai wedi’u fframio, a gemwaith haearn a metel gwerthfawr anarferol.
Rwyf wedi gwneud dodrefn drws Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd o’r blaen, a nifer o goronau’r Eisteddfod yn ogystal ag ennill y fedal aur am Grefft Campwaith yn 1993 a 1997.
Dwi wedi dangos a dysgu yn rhyngwladol, ac mae gen i stiwdio a siop yng Nghaernarfon Gogledd Cymru.
Mae’r gemwaith wedi’i wneud yn anarferol o haearn a metelau gwerthfawr, cyfuniadau metelaidd cyfoethog a thywyll, gemau disglair a manylion euraidd defnynnau efydd llyfn.
Mae’r cnocwyr drysau yn un o’m casgliadau gyda dyluniadau adnabyddus. Rwy’n eu galw’n emwaith ar gyfer pensaernïaeth.