Exciting Art for Pool Street – Easter 2024

Celfwaith Cyffroes i Stryd Y Llyn – Pasg 2024

Gosodiad ar y cyd gan Ann Catrin Evans a Lois Prys, Arianwyd gan Canfas, Y Galeri, Caernarfon.

Bydd hefyd cyfle i blant a’r cyhoedd helpu ei adeiladu dros yr wythnosau nesa. 

Dyma fenter newydd i Lois a minnau, yn ffrindiau gorau ers dros 30 o flynyddoedd, ‘rydym am y tro cyntaf erioed yn cydweithio ar prosiect mawr celf cyhoeddus. 

Mae y ddwy ohonom wedi gweithio ar prosiectau mawr ar wahan, Lois yn gynllunudd set theatr a theledu a finnau yn gerflunydd celf cyhoeddus a phensaernïol, ond hwn yw’r cyfle cyntaf i ni ddod ynghyd i gydweithio ar unrhywbeth mawr gyda’n gilydd. Buom yn ffodus iawn i enill y cystadleuaeth yma drwy rhoi cais am gynllun i mewn i alwad gan ‘ Canfas’ – prosiect celf gan Y Galeri Caernarfon.  

Daeth yr ysbrydoliaeth am ein gosodiad o ddwy ffynhonell. Un oedd edrych ir gorffennol a dysgu am fwrlwm y stryd fasnachol prysuraf yng Nghaernarfon – Stryd Y Llyn. Wedi edrych i hanes y stryd, daeth yn amlwg bod lawer o fasnachwyr tecstiliau a chrefftau gwahanol megys – gwehyddu, gwnio, teilwra, pytho, gwaith lleder a gwlan.

A’r thema arall oedd yn amlwg i ni oedd hanes Afon Cadnant a’r system ddŵr oedd gyfagos, cyfeiriodd yr archifau ni yn ôl i rediad yr afon Cadnant dwy’r dref ac at y llyn, sef tarddiad enw Stryd y Llyn. Mae yr afon erbyn hyn yn anweledig ac yn rhedeg odan y dref.

Ac felly roedd y ddwy ohonom eisiau defnyddio technegau tecstiliau i greu afon fawr weledol i lawr stryd y llyn, rhywbeth trawiadol a lliwgar, ysgafn a hwyliog – yn cynrychioli llif Afon Cadnant ac yn defnyddio technegau tecstiliau megis :- gwehyddu, pwytho,  clymu, rhaffu a rhubannu.

Mi fydd y stryd yn un llif o liwiau, yn stribedi o ddeunydd yn symyd yn y gwynt, yn rhedeg or top i lawr mewn tonnau gwahanol liwiau o las a gwyrddlas, gwyn ac arian uwch ein pennau.

Back to blog