
Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022
Rhannu
Gofynnwyd i mi wneud y goron yn ôl yn 2018 gan Y Gymdeithas Gymraeg Dinbych, yn barod ar gyfer eisteddfod yr Urdd 2020. Gohiriwyd yr Eisteddfod, tan nawr, dyma ni yn 2022, y flwyddyn pan gall unrhyw beth ddigwydd!
Fy ysbrydoliaeth ar gyfer dylunio’r goron hon oedd y tir ffermio yn Ninbych a’r cyffiniau, a’r offer a ddefnyddiwyd yn draddodiadol ar y tir ar ffermydd bach gwledig.
Gan fy mod yn ferch fferm fy hun, mae cefn gwlad Cymru wedi bod yn sylfaen gref i fy nyluniadau. Rwy’n gartrefol iawn yn yr awyr agored, ‘rwyn teimlo yn naturol yn fy amgylchedd yn y wlad, ac mae’r amgylchedd hwn yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth.
Ffermio = natur a sut rydym yn ei feithrin. Rwy’n eithaf sentimental am yr hen offer ffermio ar y fferm, y pethau sydd wedi’u gadael i rydu wrth i dechnoleg symud ymlaen.
Y peiriant a ysbrydolodd y goron hon yw y peiriant torri gwair pŵer Bamford Major neu ‘torrwr bar bys’ a oedd ynghlwm wrth gefn y Fergi bach. Mae’r ddelwedd mor addas ar gyfer coron yn fy marn i, a dyma beth wnes i fynd ati i’w wneud, i greu coron fonheddig, urddasol a chain.
Yn ymarferol mae angen i goron fod yn addas i pob maint pen oni bai bod ni yn gwybod y derbynnydd ac yna gellir ei wneud i’w maint penodol. Nid yw hyn byth yn wir mewn Eisteddfod lle mai enillydd y gystadleuaeth sy’n derbyn y clod mawr o wisgo’r Goron yn gyfrinachol. Mae’r elfen o gallu ei haddasu yn bwysig iawn ac yn rhywbeth sydd gennyf mewn golwg o’r dechrau fel ei fod yn rhan annatod o’r dyluniad. Gallai fod yn eithaf amlwg a thrwsgwl pe bai’n ôl-ystyriaeth. Yn y dyluniad hwn fel o’r blaen, mae gennyf system llithro ar gyfer cynyddu neu leihau’r cylchedd mewn cynyddiadau pob hanner maint. Mae ffitiad cyfrinachol i fod i wneud oriau cyn y seremoni gyda’r enillydd, fel y gellir gwneud yr addasiadau terfynol. Rwyf wedi ei gwneud hi’n ddigon syml fel y gall unrhyw un ei ddeallt a gofalu am yr addasiad hwn.

Rwyf bellach wedi gwneud 8 coron, roedd pob un ond dwy ar gyfer Eisteddfodau.
Rwyf wrth fy modd yn rhoi cynnig ar bethau newydd ac arbrofi, gwneud defnydd da o beth dwin ddarganfod, trio chreu dyluniad aroesol allan o’r holl wybodath a gasglwyd drwy ddefnyddio gwahanol dechnegau a chyfuno’r sgiliau a deunyddiau. Y nod yw creu cyfoeth gweledol gyda chydrannau diddorol. Roeddwn eisiau ddeunyddiau cyferbyniol i greu drama yn y goron, copaon unionsyth mawr gyda llafnau disglair rhyngddynt, gemau cyfoethog a defnydd moethus i gyd-fynd.
Y metelau a ddefnyddir yw copr ac arian sterling.
Mae’r darnau copr wedi cael eu patineiddio gan ddefnyddio techneg o gyrraedd gwres cynaledig coch lliw ceirios gyda fflam fawr, ac yna diffodd i 100 gradd o wres mewn dŵr berw – mae pob un yn dangos lliwiau hyfryd fel fflamau yn dawnsio – coch llachar a phorffor bywiog, pob un â phatrymau ychydig yn unigol a gwahanol iw gilydd.

Mae’r arian sterling wedi’i sgleinio fel drych i ddal y golau pan fydd ar y llwyfan. Wedi’i dilysu ar y cefn gyda nod fy ngwneuthurwr – fy llythrennau blaen ACE mewn hirgrwn – mae’r marc hwn yn cael ei gadw yn Swyddfa Assay Birmingham. Unwaith y byddai’r goron wedi’i chwblhau, fe’i danfonwyd â llaw i’r Swyddfa Assay i’w stampio a’i chasglu ar yr un diwrnod er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel wrth ei chludo nol adra.
Mae’r arysgrif teitl ar y panel copr yn y blaen wedi’i ysgythru â llaw – mae gan hwn arddull nodedig na ellir ond ei wneud â llaw a llygad, wrth i’r ysgythrwr ddechrau a gorffen pob llythyren â’i theclyn miniog, mae’r ddawn honno ni allai unrhyw beiriant ddynwared. Gan fod 2022 yn ben-blwydd yr Urdd yn 100 oed ychwanegwyd hyn at y panel blaen pan gafodd ei ail-lunio i ddangos dyddiad eleni.
Yn ymuno â’r goron ar bob pwynt mae rhybedi, mae’r rhes uchaf gyda garnetau crwn 5mm wedi gosod a bezel – gemau coch tywyll, dwfn a chyfoethog, un o’r gemau a ddarganfuwyd yn helaeth mewn gemwaith yn yr hen amser.
Mae’r cap yn felfed sidan coch byrgwndi hyfryd. Roedd fy nain ar ochr fy mam – hefyd Ann Cathrine – yn filiner a dwi wastad yn meddwl amdani pan dwi’n gwnio. Beth fyddai hi’n ei feddwl?, sut byddai hi’n ei adeiladu?, gan ddefnyddio rhai o’i nodwyddau a gwniadur mae yn gysylltiad hyfryd â fy ngwreiddiau. Defnyddiais rywfaint o stiffener yn y cap fel ei fod yn gallu dal ei bwysau ei hun a phwysau’r goron a gallu sbecian tua 7mm o dan yr arian yr holl ffordd o gwmpas fel nad yw’r metel yn cyffwrdd â’r pen. Roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn fwy caredig i’r gwisgwr, yn fwy cyfforddus a hefyd yn ymyl taclus o goch cyfoethog yn gorffen y goron fetel yn weledol. Mae yna bwythau brodwaith byrgwnd fel manylion o amgylch y goron sy’n gweithredu fel curiad o liw ond sydd hefyd yn bwythau strwythurol. Mae hyn yn atgoffa fi o’r arfwisgoedd o Japan yn amgueddfa’r V&A yn Llundain. Mae’r holl gydrannau metel yn cael eu pwytho gyda’i gilydd fel eu bod yn gallusymyd, yn ysgafnach, ac yn hardd.
Dyna ni, gallaf ddim aaros i’w weld ar ben yr enillydd yn Ninbych 2022.