Craft in the Bay, Cardiff

Crefft yn y Bae, Caerdydd

Ann Catrin Evans & Karin Mear

Rwyf wedi mwynhau’r broses hon yn fawr ac wedi gwneud ffrind newydd hyfryd yn Karin Mear. Cawsom drafodaethau cofiadwy a chefais fy ysbrydoli gan ei disgrifiadau byw o fagwraeth yn y cymoedd. Bydd y sgyrsiau hyn yn aros gyda mi a phwy a ŵyr, efallai y bydd mwy o waith yn esblygu ymhen amser o’r sgyrsiau hynny. Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r arddangosfa a’i fod yn dwyn i gof ymdeimlad o wreiddiau o rywle arbennig.

Arddangosfa Deialog Artistiaid
Crefft yn y Bae, Caerdydd
7 Medi – 27 Hydref

Yr arddangosfa hon yw’r ail bartneriaeth rhwng Urdd Gwneuthurwyr Cymru a Dathlu Peintio Cyfoes Cymreig.

Y llynedd gwahoddwyd chwech o grefftwyr a chwe pheintiwr cyfoes sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd i greu partneriaethau/paru – gan ddechrau deialog am eu harferion celf proffesiynol dros y misoedd cyn yr arddangosfa yn Crefft yn y Bae.

Mae’r prosiect cyffrous hwn yn dod â gwneuthurwyr ac artistiaid o bob rhan o Gymru ynghyd, nad oedd rhai ohonynt erioed wedi cyfarfod o’r blaen. Mae pob un wedi dod o hyd i ddiddordebau, ysbrydoliaeth a brwdfrydedd a rennir ar gyfer camu y tu allan i’w ‘ardaloedd cysur’ i archwilio ymagweddau newydd at eu gwaith, deunyddiau newydd a thechnegau gwneud. Mae eu sgyrsiau creadigol, ymweliadau stiwdio a rhannu deunyddiau wedi arwain at ddatblygiadau cyffrous iawn gyda’u gwaith celf yn ogystal â llawer o gyfeillgarwch newydd gyda phobl greadigol eraill!

Mae ‘parau’ artistiaid yn cynnwys: 

Beate Gegenwart & Catrin Webster 

Clare Revera & Flora McLachlan Helen Higgins & James Donovan Pamela Jones & Jacqueline Alkema Ruth Shelley & Eloise Govier

Ann Catrin Evans & Karin Mear

“Yr hyn sy’n ein cysylltu ni fel artistiaid, yw’r cariad at ein tirweddau diwydiannol a’n hanes cymdeithasol lle cawsom ein magu. Mae’n dal i ddylanwadu arnom mewn gwahanol ffyrdd. Yn y cydweithio hwn rydym yn darlunio agweddau o’n treftadaeth trwy gyfryngau cyfarwydd sy’n adleisio ein cefndir – glo, haearn a phres. 

Gydag awgrym i’r pyllau glo yn Aberdâr lle magwyd Karin a chefndir amaethyddol Ann ar y fferm yn Nhregarth, mae’r ddau artist wedi creu darnau sydd wedi’u hysbrydoli gan ei gilydd.”

Karin:

Mae gen i atgofion plentyndod o lithro i lawr tomennydd glo ac o ddod ar draws darn o aur ffyliaid. Yr wyf hefyd wedi talu gwrogaeth i ganeri, a achubodd fywydau llawer o lowyr. Byddai eu plu melyn llachar wedi darparu sblash prin o liw yn niwch y talcen glo.

Ann Catrin:

Mae’r diemwntau wedi’u gosod mewn aur ar haearn, sy’n cynrychioli disgleirdeb y gwerthfawr o fewn tywyllwch y glo. 

Mae fy nghanwyllbrennau wedi’u hysbrydoli gan y paentiadau o bentyrrau glo ym mhaentiadau Karin o’r cymoedd.

Back to blog