
Crefft yn y Bae
Rhannu
Mis diwethaf oedd y tro cyntaf i mi roi sgwrs yn Crefft yn y Bae. Rwyf wedi bod yn aelod o Urdd y Gwneuthurwyr yng Nghymru ers o leiaf 25 mlynedd mae’n debyg, a dydw i ddim yn siŵr pam ei fod wedi cymryd cymaint o amser i mi rhoi sgwrs, ond rwy’n gobeithio ei wneud eto gan ei fod mor hyfryd siarad â’r rhai hynny ddaeth i wrando, ar rhai o uchafbwyntiau fy ngyrfa, gan gynnwys gwneud dolenni drysau Canolfan Mileniwm Cymru sydd ar draws y ffordd o’r urdd.
Mae bob amser yn braf ymweld â Chaerdydd a dweud helo wrth ddodrefn y drws, a’r tro hwn roedd yn bleser hefyd gweld Cwmni Dawns Rambert yn perfformio Peaky Blinders yno.
Dangosais hefyd yn yr oriel rhai o emwaith Amrwd yn cael eu creu, ac egluro am fy nghasgliad diweddaraf – modrwyau botanegol gyda cerrig Citrine o Gaergybi.
Gallaf ddangos rhain eto i chi wrth iddynt ddatblygu.